Venue
Oriel Wrecsam
Starts
Friday, February 17, 2017
Ends
Saturday, April 1, 2017
Address
11 Chester St, Wrexham LL13 8BE 01978 292093
Location
Wales
Organiser
Oriel Wrecsam

Dyddiadau’r arddangosfa: 17/02/2017 – 01/04/2017

Mae Paul Eastwood yn gweithio gyda thestun, cerflunwaith, perfformiad, fideo, darluniau, argraffu a thecstilau. Ei brif ddiddordeb yw sut mae gwrthrychau a phobl yn llenwi gofod pensaernïol a’r amgylchedd o adeiladau, a sut mae gan wrthrychau’r potensial i gyfleu hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae Segrgrair yn dilyn prosiect ymchwil sy’n archwilio pa negeseuon/straeon y byddai siaradwyr Cymraeg yn dewis eu gadael i genedlaethau’r dyfodol pe byddai’r iaith Gymraeg wedi dod i ben mewn can mlynedd ac i adnabod nodweddion diwylliannol Cymru.

Roedd y prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar hunaniaeth Gymreig o fewn crefftau ac arteffactau diwylliannol, gan holi a all Cymreictod fodoli o fewn gwrthrychau. Mewn taith ymchwil pellach, i Chandigarh, archwiliwyd dinas Le Corbusier, sydd wedi ei chynllunio ar gyfer India annibynnol. Datblygodd y prosiect ymchwil hwn o’r awydd i astudio sut rydym yn cael ein llywodraethu gan yr adeiladau rydym yn eu meddiannu a sut gall pensaernïaeth awgrymu dyheadau hunaniaeth ddiwylliannol.

Bydd yr arddangosfa yn cynnwys cyfarpar fideo a neon wedi ei osod ar wal yn archwilio gweledigaeth o amgueddfa wedi ei gerfio i’r mynydd. Bydd yr amgueddfa yn cael ei phortreadu fel adfail â’r gwrthrychau diwylliannol oedd unwaith yma wedi torri neu eu herydu, gyda dim ond elfennau mewnol cerfiedig y mynydd yn gyfan. Mae’r monolog ddaw gyda hyn yn dychmygu iaith gydag ymwybyddiaeth ei hun; sy’n endid ar wahân i fod dynol. Trwy’r gwaith, daw’r iaith yn gymeriad, sydd heb gorff dynol, ac sy’n byw ofewn muriau pensaernïaeth ffuglennol y mynydd fel llais heb gorff yn trafod sut y defnyddir iaith i gofnodi diwylliant ar gyfer y cenedlaethau i ddod a’i diffyg o ran cadw gwybodaeth bwysig sy’n ehangu ar ei tharddiad, hanes a’i gallu i adnabod diwylliant gweledol.

Gair Cymraeg o’r 14 Ganrif sydd wedi diflannu yw’r teitl Segrgrair a chredir fod sawl ystyr posib i’r gair, yn eu mysg mae crair prydferth a chrair sanctaidd.

|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||

Exhibition dates: 17/02/2017 -01/04/2017

Paul Eastwood works across text, sculpture, performance, video, drawing, printmaking and textiles. He is primarily concerned with how objects and people occupy architectural space and the built environment, and how objects have the potential to communicate cultural identity.

Segrgrair follows a research project exploring what message/stories Welsh speakers would chose to leave for future generations if the Welsh language was to become extinct in a hundred years and to identify the cultural signifiers of Wales. The project had particular focus on Welsh identity within Welsh crafts and cultural artefacts, questioning whether Welshness could reside within objects. A further research trip, to Chandigarh, explored the city Le Corbusier designed for an independent India. This research project grew out of the desire to study how we are governed by the buildings we occupy and how architecture can suggest the aspirations of cultural identity.

The exhibition will feature a wall-mounted neon and video installation exploring a vision of a museum carved into the mountain. The museum will be portrayed in a state of ruin and the cultural objects it once housed are broken or have eroded, leaving only the mountains carved interiors intact. The accompanying monologue imagines a language with consciousness of its own; an entity separate from a human vessel. Through the work, language becomes a character, devoid of a human body, which resides within the walls of this fictional mountain architecture as a disembodied voice discussing how language is used to record culture for posterity and its shortcoming in retaining significant information that expands upon its origins, history and ability to identify visual culture.

The title Segrgrair is an obsolete Welsh 14th Century word that is believed to have several possible meanings, among them are beautiful relic and holy relic.